Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 29 Tachwedd 2017
Amser:
09.30 -
11.53
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4417
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
John Holmes, Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield Colin Angus, Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield Chris Snowdon, Sefydliad Materion Economaidd |
Staff y Pwyllgor: |
Sian Thomas (Clerc) Sarah Sargent (Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o'r Sefydliad Materion Economaidd.
3.2 Cytunodd Chris Snowdon i rannu gyda'r Pwyllgor astudiaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ymwneud â'r canlyniadau anfwriadol posibl sy'n deillio o gyflwyno isafbris uned am alcohol, a llwybrau hysbys i ddibyniaeth.
4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
4.2a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.
4.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch trafodaethau manwl am fframweithiau polisi cyffredin y DU.
4.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Athro Jon Nelson mewn perthynas â Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2 a 3 y cyfarfod.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.
7.2 Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod gerbron y Cynulliad ar 1 Rhagfyr.